91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 2

Agored Diploma mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â’r Byd Gwaith Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Dysgu ac Addysg
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cefnogi ac yn grymuso dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd trwy’r cymhwyster.

Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a gofynion cyflogwyr a bod gan gyflogwyr gyflogeion sy’n bodloni eu safonau a’u disgwyliadau.

...rydych chi’n chwilio am waith a hoffech chi ddatblygu set sgiliau mwy amrywiol.

...rydych chi wedi bod allan o’r byd addysg ers o leiaf 2 flynedd a hoffech chi symud i gyrsiau ar lefel uwch.

...rydych chi’n benderfynol o lwyddo a hoffech chi wella eich sgiliau.

Nod y cwrs hwn yw gwella eich gallu i gyflwyno cais am waith. Yn ogystal â dysgu yn y gweithle, byddwch chi hefyd yn dysgu am:

  • Entrepreneuriaeth a mentergarwch
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Cynllunio gyrfa
  • Perfformiad yn y gweithle
  • Gweithio gydag eraill
  • Iechyd a Diogelwch
  • TGCh yn y Gweithle

Bydd pob darpar fyfyriwr yn dod i gyfweliad ac yn cael ei asesu cyn cynnig lle iddo.

Mae agwedd benderfynol i lwyddo ac angerdd am ddysgu yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd angen ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, yn ogystal â dangos parch at bawb, brwdfrydedd am y pwnc a hunan-gymhelliant.

Bydd disgwyl i chi fynd ar leoliad gwaith fel rhan o’r cwrs hwn.

Byddwch chi’n cael eich asesu’n barhaus trwy bortffolio a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs arall yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Lefel sylfaenol o fathemateg (o leiaf Mynediad 3) a Saesneg (o leiaf Lefel 1) byddwch hefyd wedi cyflawni Diploma Lefel 1 ar radd pasio neu uwch.

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFDI0640AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Thursday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy