Yn gryno
Ardystiedig gan Microsoft: Peiriannydd Azure AI - Cydymaith yw ardystiad lefel canol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n dylunio, creu a gweithredu datrysiadau AI gan ddefnyddio Microsoft Azure. Mae'n canolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau megis Azure AI, Azure OpenAI, Cognitive Services ac Azure AI Search i ddefnyddiau byd go iawn.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... gweithwyr proffesiynol sy'n creu a gweithredu datrysiadau AI gan ddefnyddio Microsoft Azure.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
- Cynllunio a rheoli datrysiadau Azure AI
- Gweithredu datrysiadau gweledigaeth gyfrifiadurol
- Datblygu datrysiadau prosesu iaith naturiol (natural language processing - NLP)
- Creu AI sgwrsiol (botiau)
- Creu datrysiadau 'cloddio am wybodaeth'
- Datblygu rhaglenni AI cenhedlol
- Cymhwyso egwyddorion AI cyfrifol
Dylai mynychwyr feddu ar wybodaeth am Microsoft Azure a'r gallu i lywio porth Azure. Argymhellir meddu ar wybodaeth am naill ai C#, Python neu JavaScript.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol