Academi'r Dreigiau

Croeso i Academi Rygbi Iau y Dreigiau
Ydych chi’n angerddol am rygbi ac yn dymuno cyfuno eich astudiaethau academaidd â’ch datblygiad rygbi? Yn Academi Rygbi Iau y Dreigiau, rydym wedi creu partneriaeth gyda’r Dreigiau i gynnig y cyfuniad perffaith o addysg a datblygiad rygbi i chi.
Mae ein hacademi wedi’i dylunio i’ch helpu chi i ddatblygu’r sgiliau corfforol, technegol, tactegol a seicolegol angenrheidiol er mwyn dod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Gan gynnig 16 awr o hyfforddiant ymroddedig bob wythnos gan hyfforddwyr profiadol y Dreigiau, cewch fynediad at gyfleusterau’r gampfa, cyngor ar faeth, sgiliau cyffwrdd, sgiliau digyffwrdd a sesiynau hyfforddiant un i un.
Rydym yn croesawu chwaraewyr o bob lefel ac mae dau dîm gyda ni. Mae ein tîm XV cyntaf yn cystadlu yng Nghynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru Undeb Rygbi Cymru a chaiff gemau wythnosol eu ffrydio’n fyw ac uchafbwyntiau eu cynnwys ar raglen S4C Rygbi Pawb. Mae’r ail dîm o XV yn adlewyrchu’r tîm cyntaf ac mae’n chwarae yn ei gynghrair ei hun.

Llwyddiannau
Mae gan ein hacademi hanes balch o lwyddiant, gan ennill Cynghrair Colegau ac Ysgolion Cymru Undeb Rygbi Cymru ddwywaith, yn 2013 ac yn 2020. Rydym hefyd wedi cynhyrchu 52 o chwaraewyr rygbi rhyngwladol ar lefel oedran a thri chwaraewr rygbi rhyngwladol ar lefel genedlaethol, gan gynnwys Tyler Morgan, Elliot Dee, ac Ollie Griffiths.
Cyflawniadau Tymor 2024/25ÌýÌý
- Pencampwyr y Gynghrair – Cynghrair B Ysgolion a Cholegau Cymru.
- Dyrchafiad i gynghrair A gan gystadlu ar lefel uchaf rygbi coleg.
- 18 o chwaraewyr wedi’u dewis ar gyfer carfan dan 18 y Dreigiau.
- 5 chwaraewr wedi’u dewis ar gyfer carfan hyfforddiant Cymru dan 18 oed.
- 9 chwaraewr wedi ennill contract ar gyfer Academi’r Dreigiau.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o gymuned gefnogol a chynhwysol lle gallwch chi wireddu eich breuddwydion rygbi wrth ragori yn academaidd.
Cysylltiadau
I gael gwybod mwy am yr hyn y gall yr Academi ei wneud i chi, anfonwch e-bost atÌýrugbyacademy@coleggwent.ac.ukÌý
Matthew Jones
matthew.jones@coleggwent.ac.uk
Cyn chwaraewr rygbi proffesiynol ac uwch chwaraewr rhyngwladol Cymru.
Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Matthew yw cydlynydd yr academi rygbi a phrif hyfforddwr yr Academi i ddynion, ac mae wedi bod yn gyflogedig yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ ers 10 mlynedd.
Scott Matthews
scott.matthews@coleggwent.ac.ukÌý
Mae Scott yn gyn-fyfyriwr 91Ïã½¶ÊÓÆµ, yn chwaraewr proffesiynol ac yn chwaraewr rhyngwladol gradd oedran Cymreig. Yn gymwys ar Lefel 3 yr URC, Scott yw hyfforddwr blaenwyr yr academi i ddynion ac mae wedi bod yn y swydd ers 6 blynedd.
Evan Lloyd
Astudiodd Evan yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ ac roedd yn chwaraewr rygbi proffesiynol yn y Dreigiau o 2018 i 2024. Enillodd gydnabyddiaeth ar lefel ryngwaldol ar gyfer carfannau Cymru dan 18 oed, dan 19 oed a dan 20 oed. Mae Evan yn cwblhau ei gwrs Hyfforddiant Undeb Rygbi Cymru Lefel 3 gan atgyfnerthu ei arbenigedd a’i ymroddiad i’r gamp ymhellach.
Steven Llewellyn
steven.llewellyn@coleggwent.ac.uk
Hyfforddwr ein rheolwr tîm a’n blaenwr cynorthwyol. Mae Steve, sy’n gymwys ar Lefel 3 yr URC, wedi trefnu teithiau rygbi unwaith-mewn-oes ar draws De Affrica, Seland Newydd, Hong Kong ac Awstralia. Darlithydd yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ ers dros 26 mlynedd.
Gradd Sylfaen mewn Rygbi
Mae’r Academi Rygbi wedi ennill statws achrededig Prifysgol De Cymru gan alluogi cyflwyno Gradd Sylfaen PDC mewn Rygbi.