91Ïã½¶ÊÓÆµ

Sut i Wneud Cais
Lefelau A

A level student using a laptop in class

Sut i wneud cais ar gyfer Lefelau A mewn 5 cam hawdd

Sut i wneud cais ar gyfer Lefelau A mewn 5 cam hawdd

Cam 1

Ymgeisio Ar-lein

Mae Lefelau A ar ffurf rhaglen ddwy flynedd: Blwyddyn 1 ar gyfer Safon UG a Blwyddyn 2 ar gyfer Safon Uwch, sef Lefel A. Bydd angen ichi ddewis o leiaf 3 phwnc ac uchafswm o 4 pwnc sydd oll ar gael ar yr un campws.

Unwaith eich bod wedi dod o hyd i bwnc, cliciwch ar Ymgeisiwch a chwblhau'r ffurflen gais 5 cam. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol i ni allu cysylltu â chi gyda diweddariadau pwysig. Llenwch bob adran, gan gynnwys eich graddau TGAU a ragwelir neu a gyflawnwyd, yna cliciwch ar cyflwyno unwaith eich bod yn barod.

Ar y dudalen olaf, dewiswch yr holl bynciau Safon UG rydych chi'n bwriadu eu hastudio, hyd at uchafswm o 4, ac yna cliciwch ar cyflwyno i gwblhau eich cais.

Angen help llaw? Gallwch ffonio, anfon e-bost neu gael sgwrs ar-lein gyda'n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar:

01495 333777Ìý

helo@coleggwent.ac.ukÌý

Sgwrs fyw ar ein gwefan

staff smiling
Cam 2

Cynhigion Amodol

Unwaith ein bod wedi adolygu eich cais, byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda chynnig (cyhyd â bod eich graddau a ragwelir yn bodloni gofynion mynediad y cwrs). Anfonir manylion i'ch cyfrif e-bost ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i dderbyn y cynnig.

Os nad yw eich graddau yn bodloni'r meini prawf mynediad yn gyfan gwbwl, neu os nad oes modd i chi ddarparu unrhyw wybodaeth am eich graddau a ragwelir, bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau.

students smiling
Cam 3

Derbyn Eich Cynnig

Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.

students smiling
Cam 4

Cofrestru

Mae'r adeg gofrestru fel arfer yn digwydd dros bythefnos olaf mis Awst. Byddwn yn anfon neges e-bost atoch gyda gwahoddiad sy'n cynnwys eich slot amser — byddwch yn brydlon i osgoi oedi.

Dewch â'ch canlyniadau arholiad presennol er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod yn bodloni meini prawf mynediad eich cwrs o ddewis. Byddwch hefyd yn cwrdd â thiwtoriaid, cael manylion am eich dosbarthiadau cyntaf a dysgu sut i gael mynediad at eich amserlen. Yn ogystal â hyn, mae’n gyfle gwych i ddod yn gyfarwydd â'r campws a chwrdd eich cyd-ddysgwyr cyn dechrau yn y coleg ym mis Medi.

DYSGWYR SY'N DYCHWELYD AC SY'N SYMUD YMLAENÌý

Os ydych chi'n ddysgwr sy'n dychwelyd ond sy'n symud i faes pwnc arall, yna bydd yr adeg gofrestru yn digwydd ym mis Awst. Byddwch yn cael neges e-bost yn nes at yr amser i'ch gwahodd i'r coleg i gael cyfle i ymgyfarwyddo â'ch maes pwnc cyn dechrau ym mis Medi.

Os ydych chi'n ddysgwr sy’n dychwelyd i'r un maes pwnc ar gyfer Safon Uwch, fe gewch eich cofrestru’n amodol ym mis Mehefin.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, siaradwch â'ch tiwtor neu Dîm Cymorth CG.

tutor smiling
Cam 5

Dechrau yn y coleg

Mae'r Coleg yn dechrau yn gynnar ym mis Medi. Byddwch yn cael neges e-bost i'ch cyfeiriad e-bost coleg sy'n cynnwys eich dyddiad dechrau a manylion am sut i weld eich amserlen drwy'r ap CG Connect.

Gallai gymryd rhai dyddiau ar ôl cofrestru i amserlenni gael eu hychwanegu at yr Ap CG Connect, ac maent hefyd yn gallu newid ar unrhyw adeg hyd at ddechrau'r tymor newydd. Felly, caniatewch rywfaint o amser am hyn, a pharhewch i wirio CG Connect am ddiweddariadau.

students at college smiling outside

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy