Sut i Wneud Cais
Rhan Amser

Sut i wneud cais ar gyfer cwrs rhan-amser mewn 7 cam hawdd
Sut i wneud cais ar gyfer cwrs rhan-amser mewn 7 cam hawdd
Ymgeisio neu Gofrestru Ar-lein
Ydych chi wedi dod o hyd i gwrs rhan-amser sydd o ddiddordeb i chi? Cliciwch ar Ymgeisiwch ar dudalen y cwrs, yna llenwch y ffurflen gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol i ni allu anfon diweddariadau pwysig atoch.
Os yw’r cwrs yn llawn, efallai cewch eich gosod ar restr aros. Byddwch yn cael eich hysbysu os mai hwn yw'r achos ar adeg ymgeisio neu gofrestru.
Mae gan y cwrs feini prawf mynediad – ewch i GAM 2
Nid oes gan y cwrs feini prawf mynediad – ewch i GAM 6
Angen help llaw? Gallwch ffonio, anfon e-bost neu gael sgwrs ar-lein gyda'n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar:
Sgwrs fyw ar ein gwefanÌý

Cynnig Amodol
Byddwn yn adolygu eich cais ac yna anfon e-bost atoch gyda chynnig amodol os ydych chi'n bodloni meini prawf mynediad y cwrs.

Derbyn Eich Cynnig
Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.

Uwchlwytho Eich Tystiolaeth
Mae rhai cyrsiau yn gofyn am ddogfennau ategol megis tystysgrifau o gymwysterau. Os felly, byddwn hefyd yn eich gwahodd i fynychu cyfweliad.
Ddim yn siŵr beth i'w uwchlwytho? Gofynnwch i ni — mae ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar wrth law i'ch helpu.
Sgwrs fyw ar ein gwefan

Cofrestru
Unwaith fod popeth mewn lle, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau eich bod yn barod i gofrestru.

Talu
I sicrhau eich lle, bydd rhaid i chi dalu o fewn 7 diwrnod o dderbyn eich e-bost cofrestru. Bydd y neges yn cynnwys yr holl fanylion talu.
Ydych chi am:
- Dalu drwy'r ffôn?
- Gofyn cwestiwn am ddisgowntiau?
- Sefydlu cynllun talu?
Galwch ein Tîm Cyllid ar 01495 333777 — rydym ni wrth law i helpu.

Cadarnhau'r cofrestriad
Unwaith eich bod wedi talu am eich cwrs (neu os oes yna gynllun talu wedi'i sefydlu), byddwch yn cael neges e-bost o gadarnhad a fydd yn cynnwys:
- Dyddiad dechrau eich cwrsÌý
- Ble i fynd ar eich diwrnod cyntafÌý
- Sut i uwchlwytho llun ohonoch chi'ch hun ar gyfer eich bathodyn adnabodÌý
