91Ïã½¶ÊÓÆµ

Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol

Llunio’ch dyfodol mewn technoleg

Mae technoleg yn symud yn gyflym - gallwch chithau hefyd. P’un a ydych yn chwilfrydig am godio, â diddordeb mewn seiberddiogelwch, neu’n barod i lansio eich gyrfa TG, bydd ein cyrsiau cyfrifiadura a’n hyfforddiant technoleg ddigidol yn eich paratoi ar gyfer gweithio gyda’r sgiliau y mae’r diwydiant yn crefu amdanynt.

Yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ, cewch brofiad ymarferol, byddwch yn dysgu gan arbenigwyr, ac yn astudio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi eu dylunio i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant yn y byd digidol.

Hyfforddi mewn coleg CyberFirst Aur

Rydym yn falch o fod yn Goleg CyberFirst Aur - sy’n cael ei gydnabod fel rhagoriaeth mewn addysg seiber a rhan o Cyber College Cymru. Byddwch yn dysgu mewn ystafelloedd TG wedi’u cyfarparu’n llawn ac yn ein Hwb Seiber pwrpasol, lle byddwch yn gweithio gyda’r caledwedd, meddalwedd, a’r offer diogelwch diweddaraf sy’n adlewyrchu’r gweithle.

P’un a ydych yn dymuno archwilio meddalwedd, systemau, neu ddiogelwch, cewch gefnogaeth arbenigol a dysgu yn y byd go iawn gyda ni.

Robot programming
Computing students at Crosskeys Campus
Sgiliau seiberddiogelwch

Dysgwch sut i amddiffyn data, systemau, a rhwydweithiau rhag bygythiadau ar-lein cynyddol. Mae ein cyrsiau seiber yn canolbwyntio ar bopeth o fforensig digidol i hacio moesegol, gan roi’r adnoddau i chi helpu i amddiffyn y byd digidol.

Datblygu a rhaglennu meddalwedd

Os ydych wrth eich bodd yn datrys problemau, dylunio apiau neu greu gemau, efallai mai ein cyrsiau datblygu a rhaglennu meddalwedd yw’r dewis i chi. Dysgwch ieithoedd codio, am bensaernïaeth meddalwedd ac egwyddorion dylunio gan diwtoriaid gyda phrofiad mewn diwydiant go iawn.

Rhwydweithio a chefnogaeth i systemau TG

Cadwch systemau yn gysylltiedig a diogel gyda hyfforddiant ymarferol mewn rhwydweithio, cefnogaeth a seilwaith TG. Cewch sylfaen gadarn ar gyfer rolau mewn cefnogaeth technoleg, gweinyddu systemau a mwy.

Computing & Digital Technology Mature student smiling

I ble y gallwch fynd?

A gan nad yw technoleg yn aros yn yr unfan, wnaiff eich gyrfa chi ddim chwaith.

Gall cymhwyster cyfrifiadura arwain at yrfaoedd cyffrous mewn:

  • Seiberddiogelwch a fforensig digidol
  • Datblygiad meddalwedd ac apiau
  • Cefnogaeth TG a rhwydweithio systemau
  • Datblygu’r we a rhaglennu
  • Cyfrifiadura cwmwl
  • Dadansoddi data, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol

Mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn lle gwych i astudio Seiber - mae'r amgylchedd yn gyfeillgar, mae'r athrawon yn gefnogol iawn, ac mae'r cyfleusterau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer hyfforddiant seiber. Seiber yw'r dyfodol, a bydd y rhan fwyaf o swyddi yn cynnwys cyfrifiadura, felly mae'n faes craff i fynd i mewn.

Mia – Cyfrifiadura & Thechnoleg Ddigidol

Datblygu eich gyrfa ddigidol - gan gychwyn yn awr

Profiadau ymarferol, dysgu gan arweinwyr yn y diwydiant, a magu hyder i gamu i swydd dechnoleg lle mae galw mawr. P’un a ydych yn chwilio am opsiwn astudio llawn amser neu opsiwn mwy hyblyg, mae gennym gwrs ar eich cyfer.

Edrychwch ar ein cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol llawn amser, rhan amser ac addysg uwch isod.

Cyrsiau

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: