Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol

Beth am droi eich angerdd yn yrfa mewn gwallt, harddwch, a cholur
Efallai fod gennych freuddwyd o redeg eich salon eich hun. Efallai eich bod wastad eisiau bod yn weithiwr trin gwallt.
Neu efallai eich bod yn cael eich denu gan greadigrwydd colur theatrig a chyfryngau.
Beth bynnag fo’ch uchelgais, gall yr hyfforddiant cywir eich helpu i lwyddo yn y diwydiant gwallt a harddwch sy’n datblygu’n gyson - ac mae gennym ystod eang o gyrsiau ar eich cyfer.

Beth am berffeithio eich crefft yn Salonau Gwallt a Harddwch Blŵm
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys tair salon trin gwallt, harddwch, a therapïau cyflenwol. Yn Salonau Gwallt a Harddwch Blŵm, byddwch yn hyfforddi mewn amgylchedd proffesiynol a bydd y technolegau, triniaethau, a’r cynhyrchion diweddaraf ar gael i chi, gan sicrhau eich bod yn cael profiad o’r byd go iawn mewn amgylchedd deinamig.




Mae trin gwallt yn fwy na dim ond steilio - mae’n ymwneud â chreadigrwydd, cyfathrebu, a hyder. Mae ein cyrsiau trin gwallt a barbro yn eich addysgu sut i drafod gyda chleientiaid, meistroli technegau torri a lliwio, a chreu steiliau gwallt trawiadol, i gyd tra’n datblygu’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant.
Mae therapydd harddwch da yn rhoi hwb i hyder a llesiant cwsmeriaid, gan ffurfio perthnasoedd hirdymor gyda chleientiaid yn aml. Ond nid am salonau yn unig y mae therapi harddwch - gall eich sgiliau eich arwain i sbâu moethus, ymgynghoriaeth harddwch, datblygu cynnyrch, neu hyd yn oed ar longau mordaith, yn teithio’r byd tra’n gwneud yr hyn yr ydych yn ei garu. Gyda chyrsiau arbenigol ar ystod eang o driniaethau, gallwch lunio’ch hyfforddiant i gyd fynd ag uchelgeisiau eich gyrfa.
Mae iechyd holistig a llesiant yn ddiwydiannau sy’n ffynnu, gyda galw cynyddol am therapyddion medrus mewn aromatherapi, adweitheg, a thylino. Mae ein cyrsiau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol gyda theori fanwl, gan roi’r arbenigedd i chi lwyddo yn y maes gwerth chweil hwn.
Os ydych yn frwd dros greadigrwydd a thrawsnewid, gallai gyrfa mewn colur theatrig a chyfryngau fynd â chi i fyd y ffilm, teledu, theatr, ffasiwn, neu ddigwyddiadau byw. Tra’n derbyn hyfforddiant yn ein stiwdio golur theatrig a chyfryngau arbenigol, byddwch yn dysgu creu popeth o ymddangosiad naturiol, parod i’r camera i steiliau gwallt a wigiau cywrain y cyfnod, ac effeithiau prosthetig dramatig. P’un a ydych yn gweithio’n annibynnol, yn cynorthwyo uwch artistiaid, neu’n ymuno â thîm creadigol, dyma yrfa lle mae’ch dychymyg yn gosod y terfynau.

I ble y gallwch fynd gyda Thrin Gwallt, Harddwch, a Therapïau Cyflenwol?
Gyda chymhwyster yn y pwnc hwn, byddwch yn barod ar gyfer ystod o yrfaoedd deinamig, gwerth chweil, fel:
- Perchennog salon gwallt
- Therapydd harddwch
- Technegydd ewinedd
- Artist colur arbenigol
- Therapydd tylino
Oriel
















Dechreuwch eich taith heddiw
P’un a ydych yn awyddus i agor eich salon eich hun, arbenigo mewn uwch-driniaethau harddwch, neu weithio tu ôl i’r llenni mewn ffilm neu yn y theatr, fe wnawn eich helpu i ennill y sgiliau, profiad, a chymwysterau i lwyddo.
Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser, rhan amser a lefel prifysgol heddiw a chymerwch y cam cyntaf tuag at eich dyfodol.