91Ïã½¶ÊÓÆµ

Addysg Uwch Cymorth Ariannol

Students socialising

Mae cymorth ariannol amrywiol ar gael ichi dros oes eich cwrs, yn cynnwys benthyciadau (y bydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl) a grantiau/bwrsarïau (na fydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl). Mae’r cymorth yr ydych yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble yr ydych yn astudio, incwm eich aelwyd a ble yr ydych yn byw.

Gwybodaeth

  • Gall Prifysgolion a Cholegau godi ffioedd dysgu o hyd at £9,535 y flwyddyn. Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf ac sydd fel arfer yn byw yng Nghymru gael benthyciad o hyd at £9,535 ar gyfer ffioedd dysgu. Nid yw’r benthyciad hwn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd.
  • Yn ogystal â’r benthyciad ffioedd dysgu, gallwch gael cymorth cynhaliaeth (i helpu gyda chostau byw). Gall myfyrwyr cymwys sy’n byw oddi cartref (y tu allan i Lundain) gael £12,345 y flwyddyn, sef cymysgedd o grant a benthyciad. Bydd swm y grant yn dibynnu ar incwm eich aelwyd (gweler yr enghreifftiau isod).
  • Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu unrhyw beth ymlaen llaw.
  • Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr dalu unrhyw beth yn ôl hyd nes y byddant wedi cael swydd ac yn ennill mwy na £28,470.
  • Os ydych wedi dilyn cwrs Addysg Uwch o’r blaen, mae’n bwysig ichi ddeall y gallai hynny effeithio ar eich cymhwystra i gael cymorth. I gael manylion, ewch i a darllenwch yr adran ar reolau astudiaeth flaenorol.
  • Mae’r tabl isod yn dangos sut y mae incwm yr aelwyd yn pennu faint o grant cynhaliaeth y gallwch ei gael. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad.

2025 i 2026

Incwm Cartref Byw gartref gyda rhieni Byw oddi cartref, astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant Benthyciad Grant
£18,370 neu llai £3,595 £6,885 £4,245 £8,100
£25,000 £4,550 £5,930 £5,398 £6,947
£35,000 £5,992 £4,488 £7,137 £5,208
£45,000 £7,433 £3,047 £8,876 £3,469
£59,200 neu fwy £9,480 £1,000 £11,345 £1,000
Cyfanswm £10,480 £12,345

Beth ddylwn i wneud nesaf?

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru . Bydd modd i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais am gymorth ar-lein o fis Mai.

Byw tu all i Gymru

Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw y tu allan i Gymru, cewch wybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio trwy ddilyn y dolenni canlynol:

  • A ydych chi’n byw yn lloegr?
  • A ydych chi’n byw yn yr alban?
  • A ydych chi’n byw yng ngogledd iwerddon?
  • Gall myfyrwyr rhyngwladol ddod o hyd i wybodaeth yma:

Cymorth ariannol Arall

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni

Cymorth gyda Ffioedd Dysgu

Gall pawb sy’n astudio yng Nghymru ymgeisio am fenthyciad nad yw’n dibynnu ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. I fod yn gymwys, rhaid ichi astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai’n rhaid i fyfyriwr rhan amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn.

Cymorth Cynhaliaeth (Costau Byw)

Gallwch ymgeisio am gymorth o hyd at £4,553tuag at gostau byw, sy’n gyfuniad o grant (na fydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl) a benthyciad (y bydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl). Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau y byddwch yn astudio (dwysedd astudio) ac incwm eich aelwyd.

Ceir enghreifftiau o’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau o incwm aelwydydd a dwysedd astudio yn y tabl isod.

Incwm
(£)
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu
Grant Cymorth Arbennig (£)
Benthyciadau
°ä²â²Ô³ó²¹±ô¾±²¹±ð³Ù³ó(£)
Cyfanswm y Grant
a’r Benthyciad (£)
Astudio ar ddwysedd o 50%
£25,000 £3,000 £1,553 £4,553
£35,000 £2,270 £2,283 £4,553
£45,000 £1,539 £3,014 £4,553
£59,200+ £500.00 £4,053 £4,553

Cymorth ariannol Arall

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni