Addysg Uwch Cymorth Dysgu

Eich cefnogi chi
Mae gennym ni ddigonedd o wasanaethau cymorth ar gael, p’un a oes angen cymorth arnoch gyda phrawfddarllen eich gwaith, cymorth hygyrchedd neu sesiynau ychwanegol i gynorthwyo gydag aseiniadau, rydym yma i helpu!
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Wedi i chi gael cadarnhad gan Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr, os ydych wedi cofrestru anhawster dysgu a/neu anabledd, gallwn ddarparu llawer o gefnogaeth.
Os oes angen cymorth arnoch, siaradwch â’ch tiwtor, cysylltwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol y campws (ALNCo) neu’r swyddog Cynnydd Addysg Uwch.
Gallai hyn gynnwys:
- Cymorth yn y dosbarth gan Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol
- Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs
- Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (i fyfyrwyr byddar)
- Cymorth Dyslecsia
- Defnyddio meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol
- Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau
Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol
Ar bob campws mae gennym Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol Addysg Uwch a fydd yn eich cefnogi gydag arweiniad academaidd a bugeiliol drwy gydol eich rhaglen astudio.
Mae Hyfforddwyr Cefnogaeth Academaidd a Bugeiliol Addysg Uwch yn ymroddedig i’ch cefnogi chi drwy unrhyw anhawster, sy’n cynnwys eich cyfeirio at ein timau arbenigol perthnasol.
Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
- Sgiliau astudio
- Cefnogaeth academaidd
- Problemau gyda phresenoldeb
- Cyngor ariannol
- Ymdopi â straen a gorbryder