91Ïã½¶ÊÓÆµ

Canllaw i Gymwysterau ar Lefel y Brifysgol

two students chatting

Dewis y cwrs iawn

Mae sicrhau eich bod ar y cwrs iawn yn hanfodol gan y gall ddylanwadu ar eich cam nesaf a’ch dyfodol yn y tymor hir.

Mae Gradd Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gweithle/sy’n gysylltiedig â gwaith. Maent yn gyfwerth yn gyffredinol â dwy flynedd gyntaf Gradd Baglor, ac wedi’u dylunio gyda sector cyflogaeth penodol dan sylw – felly, gyda chymorth sefydliadau yn y maes hwnnw, rydych yn cael y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Fel rheol, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth. Unwaith y byddwch wedi cyflawni Gradd Sylfaen, gallwch ddefnyddio eich cymhwyster a’ch profiad gwaith i ddod o hyd i waith neu ‘godi’ eich cymhwyster i Radd Baglor lawn. Mae hyn fel rheol yn cynnwys dwy flynedd ychwanegol o astudio.

Cyrsiau cysylltiedig â gwaith yw'r rhain a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr yn y DU a dramor. Tra bod Gradd Baglor yn tueddu i ganolbwyntio mwy ar ennill gwybodaeth, mae HNCs a HNDs wedi'u dylunio i roi i chi'r sgiliau i ddefnyddio'r wybodaeth honno yn effeithiol mewn galwedigaeth benodol.

Mae cymwysterau Cenedlaethol Uwch yn gwneud mwy na'ch paratoi ar gyfer gwaith. Mae rhai HNCs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn rhaglen radd ac mae nifer o HNDs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i drydedd flwyddyn Gradd Anrhydedd. Gall HNCs neu HNDs hefyd eich cyflwyno i nifer o gyrff proffesiynol. Felly, p'un a ydych eisiau mynd yn syth i mewn i waith neu barhau â'ch astudiaethau, gall ennill cymhwyster cenedlaethol uwch fod yn ffordd dda o gychwyn arni.

Mae gradd Atodol yn gyfwerth â blwyddyn olaf astudiaeth israddedig, gan roi cymhwyster lefel gradd i chi. Fel yr awgryma’r enw, mae’r cyrsiau hyn yn eich galluogi i ‘godi’ eich cymhwyster presennol, p’un ai a yw’n Radd Sylfaen neu’n gymhwyster perthnasol arall, fel HND.

Mae gan bob cwrs ei ofynion mynediad ei hun, felly edrychwch ar y cwrs sydd o ddiddordeb i chi am ragor o wybodaeth ynghylch beth yn union fydd ei angen arnoch i wneud cais. Yn ogystal, sicrhewch eich bodd yn gwirio a ydych yn gymwys am gyllid myfyrwyr.

Mae'r rhain yn canolbwyntio ar eich gallu i lwyddo mewn galwedigaeth benodol, sy'n berffaith os oes gennych nod clir o ran gyrfa ac yn dymuno ennill profiad gwaith gwerthfawr. Mae nifer o yrfaoedd yn gofyn am gymwysterau proffesiynol, ond mewn achosion eraill nid ydynt yn hanfodol. Pa bynnag un sy'n wir i chi, maent yn eich caniatáu i ennill mwy o gymhwysedd yn eich maes a gwella eich siawns o symud ymlaen.

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs Lefel 3 sydd wedi'i gynllunio i baratoi dysgwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn astudiaeth lefel uwch.

Mae cwrs Mynediad yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr hŷn sydd eisiau newid gyrfa neu sy'n dychwelyd i astudio ar ôl seibiant a mae wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer astudio ar lefel prifysgol. Mae opsiynau i astudio'n llawn amser neu'n rhan amser a gallwch ddewis cwrs sy'n addas i'ch llwybr gyrfa.

Gofynion Mynediad

Ystyrir ceisiadau i bob cwrs ar sail unigol. Mae manylion y gofynion mynediad arferol isod, ond os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, yna bydd eich profiad gwaith a bywyd yn cael eu hystyried.

Rydym yn derbyn cyfuniadau o'r cymwysterau isod, ac mae'n bosib y derbynnir cymwysterau eraill nad ydynt wedi eu nodi megis NVQ Lefel 3, Diploma CACHE, NNEB, neu OCN a OCR Lefel 3. Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn i chi ymgymryd â phrawf rhifedd a/neu lythrennedd. Bydd gwiriad DBS yn angenrheidiol ar gyfer cyrsiau penodol; mae unrhyw feini prawf ychwanegol wedi eu nodi ar dudalennau'r cyrsiau unigol. Bydd myfyrwyr hŷn sydd ddim yn bodloni'r cymwysterau academaidd, ond sydd â phrofiad perthnasol yn eu diwydiant, yn cael eu hystyried yn unigol drwy gyfweliad.

Os nad ydych yn sicr a ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, cysylltwch â ni.

Teipiwch Bydd rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol: Hefyd:
HNC, HND a Graddau Sylfaen Proffil BTEC Lefel 3 gyda Teilyngdod/Teilyngdod DD ar Lefel A
Graddau DE ar Lefel A, gyda gradd C Bagloriaeth Cymru
Mynediad at Addysg Uwch lle rydych wedi llwyddo mewn Diploma gyda 45 'llwyddo'
Llwyddiannau mewn tri phwnc TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu’n gyfwerth).
Tystysgrifau Addysg Uwch Proffil BTEC Lefel 3 gyda Teilyngdod/Llwyddo neu Llwyddo/Llwyddo/Llwyddo
CC ar Lefel A
Graddau DE ar Lefel A, gyda gradd C Bagloriaeth Cymru
Mynediad at Addysg Uwch lle rydych wedi llwyddo mewn Diploma gyda 15 Teilyngdod a 30 Llwyddo
Llwyddiannau mewn tri phwnc TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu’n gyfwerth).
Access to HE student sat in TLZ reception

Ddim yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r gofynion mynediad?

Os nad ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, efallai y byddwch am ystyried cwrs Mynediad i Addysg Uwch

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch wedi'i gynllunio i baratoi dysgwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn astudiaethau lefel uwch.

Os nad ydych chi'n hollol barod i astudio addysg uwch, mynediad i addysg uwch yw'r llwybr perffaith i'ch cyrraedd chi yno!