Yn gryno
Dyma'r cwrs i chi os ydych eisiau astudio gwyddoniaeth gyfochr â phynciau Safon Uwch. Addysgir y cwrs hwn fel rhan o raglen astudiaeth Safon Uwch, sy’n cyd-fynd ag amrywiaeth o bynciau Safon Uwch eraill megis bioleg, mathemateg a TG.
Ymdrinnir ag unedau cemeg, bioleg a ffiseg ac unedau eraill fydd yn cyffwrdd ar sgiliau ymarferol, yn ogystal ag iechyd a diogelwch mewn amgylchedd labordy, gyda digon o gyfle i ddatblygu sgiliau ymarferol.
... Rydych eisiau cwrs ymarferol, sy'n gysylltiedig â gwaith
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth
... Rydych yn ysu am yrfa mewn maes gwyddonol
... Rydych eisiau gweithio o fewn y GIG neu feysydd iechyd neu wyddonol perthnasol
Blwyddyn 1:
- Uned 1: Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddoniaeth I (asesiadau allanol, arholiadau tua dechrau mis Mehefin fel arfer).
- Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol (asesiadau mewnol).
Blwyddyn 2:
- Uned 3: Sgiliau Ymchwilio Gwyddonol (asesiadau allanol, arholiadau ym mis Ebrill/Mai fel arfer).
- Uned 4: Technegau Labordy a'u Defnydd (asesiadau mewnol).
I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc wyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunan.
O gwblhau'r ail flwyddyn yn llwyddiannus, mae'n bosib y gallech symud ymlaen i wneud HND neu gwrs gradd gwyddoniaeth neu wyddorau biofeddygol. Mae myfyrwyr yn aml yn mynd ymlaen i brifysgolion lleol a chenedlaethol i astudio ar lefel uwch.
Mae galw uchel am gyfleoedd gyrfa yn gweithio mewn labordai gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.
I gofrestru, rydych angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn pwnc wyddoniaeth a Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf.