Sut i Wneud Cais
Addysg Uwch

Sut i wneud cais ar gyfer cwrs addysg uwch mewn 6 cham hawdd
Sut i wneud cais ar gyfer cwrs addysg uwch mewn 6 cham hawdd
Ymgeisio Ar-lein
Dechreuwch drwy ddod o hyd i gwrs sydd at eich dant ar ein gwefan. Gallwch wneud cais ar gyfer un cwrs Addysg Uwch ar y tro, felly dewiswch yr un sydd mwyaf addas i chi a chliciwch ar ymgeisiwch.
Mae'r broses ymgeisio yn cymryd rhai munudau yn unig ac mae ganddi bum cam sydyn. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol fel ein bod yn gallu rhannu diweddariadau pwysig gyda chi.
Llenwch bob adran, yna cliciwch ar 'cyflwyno' unwaith eich bod chi'n barod.
Angen help llaw? Gallwch ffonio, anfon e-bost neu gael sgwrs ar-lein gyda'n Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar:
Sgwrs fyw ar ein gwefanÌý

Cynnig Amodol
Byddwn yn gwirio eich cymwysiadau (a phrofiad gwaith lle bo hynny’n berthnasol) ac yna anfonwn gynnig atoch chi drwy e-bost os ydych yn bodloni'r meini prawf mynediad. Gweler holl fanylion y meini prawf mynediad ar dudalen pob cwrs.

Derbyn Eich Cynnig
Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.

Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr
Gellir cael gwybodaeth a chanllawiau am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau AU yn yr adran Addysg Uwch – Cymorth Ariannol ar ein gwefan.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael i chi ac i ymgeisio amdano, ewch i . Os ydych chi'n ddysgwr sy'n byw yn Lloegr ar hyn o bryd, dewiswch . Wrth ymgeisio am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr, dewiswch eich modd o bresenoldeb, h.y. llawn-amser neu ran-amser. Dewiswch y brifysgol ddyfarnu (gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon ar dudalen y cwrs ar ein gwefan), yna rhowch 91Ïã½¶ÊÓÆµ fel y campws.
Enghraifft: Os ydych chi am astudio Gradd Sylfaen mewn Dylunio, byddech yn dewis Prifysgol De Cymruac yna 91Ïã½¶ÊÓÆµ.Ìý

Cofrestru
Mae’r adeg gofrestru yn digwydd yn gynnar ym mis Medi. Mae'r rhan fwyaf o gampysau'n cynnal cofrestru ar-lein ond mae rhai cyrsiau yn gofyn i chi gofrestru wyneb yn wyneb ar y campws. Byddwn yn anfon manylion y cwrs atoch tuag at ddiwedd mis Awst. Cadwch lygad am hyn a dilynwch y canllawiau a ddarperir.

Dechrau yn y coleg
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael neges e-bost yn eich cyfrif e-bost coleg a fydd yn eich hysbysu am y dyddiad dechrau a rhoi canllawiau am sut i gyrchu eich amserlen unwaith ei bod ar gael. Bydd hon ar gael ar ap y myfyrwyr, sef CG Connect.
