Arlwyo a Lletygarwch

Beth am droi’ch angerdd am fwyd a lletygarwch yn yrfa
Os ydych wrth eich bodd yn y gegin, yn mwynhau creu profiadau bwyta gwych, neu’n gweld eich hun yn rheoli gwesty neu ddigwyddiad rhyw ddiwrnod, mae ein cyrsiau Arlwyo a Lletygarwch yn fan perffaith i gychwyn arni.
Yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ, byddwch yn derbyn y sgiliau ymarferol, y wybodaeth, a’r hyder i ffynnu yn y diwydiant cyffrous hwn sy’n symud yn gyflym.
Cewch hyfforddi mewn ceginau go iawn gyda chwsmeriaid go iawn
Nid dysgu’r theori yn unig a fyddwch - byddwch yn cael profiad ymarferol o’r byd go iawn yn ein ceginau proffesiynol a’n bwyty ar waith, Morels. Byddwch yn gweithio gydag offer o safon y diwydiant, yn dysgu gan gogyddion profiadol a gweithwyr lletygarwch proffesiynol, gan ennill y sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:
- Cegin broffesiynol llawn offer
- Bwyty Morels; bwyty ar waith, lle byddwch yn coginio ac yn gweini ar gwsmeriaid go iawn
- Bar o safon y diwydiant ar waith, lle byddwch yn dysgu am bopeth o goctels creadigol i goffi, ar ffurf barista



Dysgwch goginio fel arbenigwr gydag arweiniad arbenigol mewn coginio proffesiynol, paratoi bwyd, a rheoli cegin. Byddwch yn datblygu sgiliau cogydd craidd, yn cael cynllunio bwydlenni, ac yn meistroli technegau hanfodol fel cyflwyniad bwyd a diogelwch bwyd. Mae’n hyfforddiant delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i weithio neu ddatblygu gyrfa mewn bwytai, gwestai, neu eu busnes arlwyo eu hunain.
Oes gennych ddant melys? Cewch ganolbwyntio eich creadigrwydd ar bobi arbenigol a thechnegau patisserie. Byddwch yn dysgu’r grefft o bobi bara, pwdinau, cynnyrch crwst, a chyflwyniad mewn lleoliad proffesiynol, gan eich helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa fel pobydd neu gogydd patisserie.
Os yw’n well gennych wynebu’r cyhoedd yn hytrach na bod yn y gegin, mae ein cyrsiau lletygarwch ar eich cyfer chi. Byddwch yn ymdrin â gwasanaeth cwsmeriaid, gweithrediadau busnes, marchnata, rheoli digwyddiadau a lleoliadau - gan gael y profiad sydd ei angen arnoch ar gyfer rolau mewn gwestai, bwytai, a digwyddiadau.

I ble y gallwch fynd?
P’un a ydych yn awyddus i ymuno â chegin wych, rheoli lleoliad, neu gychwyn eich busnes eich hun, rydym yma i’ch helpu i greu gyrfa y byddwch yn falch ohoni.
Mae ein cymwysterau yn agor drysau i yrfaoedd mewn:
- Rolau cogydd mewn bwytai, gwestai ac arlwyo
- Pobi a patisserie
- Rheoli gwasanaeth bwyd a chegin
- Rheoli digwyddiadau, gwesty a lletygarwch
- Rolau gwasanaeth cwsmeriaid ac wynebu’r cyhoedd
Oriel















Mae eich dyfodol mewn bwyd yn dechrau yma
Gyda sgiliau sydd â galw mawr amdanynt, profiad ymarferol a chymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant, byddwch yn barod i gymryd eich lle yn y byd arlwyo a lletygarwch.
Edrychwch ar ein cyrsiau llawn amser a rhan amser isod, a chychwyn ar eich taith tuag at yrfa gwerth chweil gyda phrofiadau bythgofiadwy.