91Ïã½¶ÊÓÆµ

Addysg Uwch

Pam astudio gyda ni?

Sgroliwch i chwilio keyboard_arrow_down

does dim rhaid iddo gostio llawer

Smiling student in the BGLZ atrium

Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau addysg uwch yn costio oddeutu £7,500, sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o brifysgolion – gan arbed miliynau o bunnoedd ichi. Mae astudio’n lleol yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn golygu y gallech hefyd fod yn gymwys am gymorth ariannol, bwrsariaethau a grantiau i’ch helpu chi gyda chost astudio.

Smiling student in the BGLZ atrium

Mynnwch brofiad y brifysgol

Students wearing gowns at graduation

Mae ein cyrsiau lefel prifysgol yn cael eu dilysu gan ein partneriaid prifysgol cydweithredol; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Pearson.

Mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn croesawu ceisiadau uniongyrchol am gyrsiau Addysg Uwch. Felly, nid oes angen gwneud cais drwy UCAS.

Mae ein partneriaethau cryf â’n Prifysgolion yn golygu bod gennych hawl i ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, gan gynnwys canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif sy’n cael ei gyflwyno gan y brifysgol, a byddwch hyd yn oed yn cael gwahoddiad i’w seremoni raddio!

Students wearing gowns at graduation

Nid oes gofynion mynediad llym

Students reading a form

Nid oes gennym ofynion mynediad llym a does dim rhaid gwneud cais drwy UCAS. Rydym yn edrych ar bob unigolyn ac yn ystyried eich bywyd a’ch profiad gwaith, yn ogystal â chymwysterau blaenorol.

Students reading a form

Ni'n lleol

Smiling students outside the Caffi in Usk

Gall gadael cartref i fynd i brifysgol fod yn gam mawr, a gydag ymrwymiadau gwaith a theulu – nid yw’n bosibl bob amser. Gyda thoreth o gyrsiau addysg uwch ar draws ein pum campws – ni all astudio cymhwyster lefel prifysgol ar stepen eich drws fod dim haws!

Smiling students outside the Caffi in Usk

Cyfleoedd Gwych

Student using a tablet and robotic machinery

Bydd ein cyrsiau addysg uwch yn eich darparu â sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Mae ein cyrsiau yn broffesiynol berthnasol ac fe allant roi’r fantais gystadleuol i chi, gan arwain at y potensial o gyflog uwch a chyfleoedd gwell.

Student using a tablet and robotic machinery

Digonedd o ddewis

Three students looking at a laptop

Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu y gallwch astudio’n llawn amser neu’n rhan amser – i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill. Gyda phum campws i ddewis o’u plith, rydym yn hyderus y dewch o hyd i rywbeth sy’n addas i chi!

Three students looking at a laptop

Profiad yn y gweithle

Vet nursing students smiling

Fel rheol, mae ein cyrsiau yn cynnwys dysgu yn y gweithle yn ogystal ag yn y coleg, felly byddwch yn ennill sgiliau sy’n ymwneud â gyrfa a phrofiad mewn diwydiant penodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ac felly cewch gyfle da i ddod o hyd i yrfa eich breuddwydion.

Vet nursing students smiling

Tiwtora Gwell

Student talking to staff in a library

Mae maint llai ein dosbarthiadau yn golygu y byddwch yn derbyn cymorth gan staff darlithio a staff cymorth ymroddedig, ac mae ein campysau yn groesawgar a chyfeillgar.

Student talking to staff in a library

Llwyddwch gyda ni

Student smiling at graduation

Mae dros hanner ein myfyrwyr addysg uwch yn astudio gradd sylfaen ac yn ychwanegu at eu gradd ar eu blwyddyn olaf yn ein prifysgolion partner. Felly, gallwch aros yn lleol ac arbed amser ac arian teithio, llety a ffioedd dysgu* yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Felly, os ydych chi wedi rhoi eich bryd ar ennill cymhwyster lefel prifysgol – gallwch wneud hynny yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ!

*yn ddibynnol ar eich dewis o gwrs a phrifysgol bartner ddilysu.

Student smiling at graduation
HE student smiling with horse

Byddwn i'n argymell 91Ïã½¶ÊÓÆµ oherwydd bod ganddyn nhw ddarlithwyr a chyfleusterau gwych! Mae'n lleol, felly mae'n rhoi'r cyfle i mi astudio cymhwyster addysg uwch ar garreg fy drws. Mae ganddyn nhw ddosbarthiadau llai hefyd, felly mae ar lefel llawer mwy personol gyda'ch darlithwyr.

Jordan Whitaker - Gradd sylfaen astudiaethau ceffylau